Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Ymateb i Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: Addasiadau Tai

Darparwyd gan: Rebecca Evans, Y Gweinidog Tai ac Adfywio.

Dyddiad: 12 Medi 2018

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac yn cynnig yr ymateb canlynol i’r chwe argymhelliad sydd ynddo.

Argymhelliad 1.Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r data perfformiad y mae wedi’i chasglu fel rhan o’r adolygiad Hwyluso erbyn mis Tachwedd 2018. Wrth gyhoeddi’r wybodaeth hon, dylai Llywodraeth Cymru nodi’n glir unrhyw ddiffygion yn y rownd gyntaf o wybodaeth am berfformiad a gasglwyd, er enghraifft, sefydliadau nad ydynt yn darparu gwybodaeth, a sut mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r bylchau hyn.

Derbyn – Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella’r ddarpariaeth o gymhorthion ac addasiadau ac mae’n cydnabod cyfraniad data o ansawdd da o ran helpu i hyrwyddo gwelliannau.  Mae’r data a gasglwyd fel rhan o adolygiad HWYLUSO yn cael eu dadansoddi gan ymchwilwyr ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2018. Ochr yn ochr â chyhoeddi’r data, byddwn yn nodi diffygion yn y data o safbwynt ansawdd ac ystod. Byddwn yn gweithio’n uniongyrchol â’r sefydliadau hynny nad ydynt wedi darparu ymatebion data, er mwyn sicrhau bod ganddynt systemau ar waith i fodloni ein disgwyliadau. Rydym hefyd wedi diwygio telerau ac amodau’r grant, lle mae hynny’n berthnasol, i egluro’r angen i gipio data a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen o dan y Grŵp Llywio Cymhorthion ac Addasiadau.  Mae’r grŵp wedi gael y gorchwyl o nodi sut y gallwn sicrhau bod ein dull o gasglu data yn gadarn a chyson ar draws sefydliadau.  Mae’r grŵp eisoes wedi cyfarfod unwaith ac wedi gwneud nifer o argymhellion, sy’n cael eu hadlewyrchu yn ein hymateb i argymhelliad 6 isod.

Argymhelliad 2. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i sefydlu safonau isaf ar gyfer pob addasiad, i sicrhau bod pobl anabl a phobl hŷn yn derbyn gwasanaeth o’r un safon waeth ble maent yn byw, pwy yw eu landlord ac a ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain ai peidio. Yn arbennig, dylent sicrhau bod y data sy’n sail i’r ymarfer hwn yn gadarn ac yn gynhwysfawr. Yn eu hymateb i Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, nododd Llywodraeth Cymru ddyddiad cwblhau, sef mis Rhagfyr 2019. O ystyried cynnydd araf yn y gorffennol, mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen mwy o frys gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth, ac y dylid ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2019. Bydd y Pwyllgor yn monitro’r ddarpariaeth er mwyn sicrhau bod y safonau gofynnol wedi’u sefydlu a’u lledaenu erbyn mis Gorffennaf 2019.
 

Derbyn Rydym yn derbyn yr angen i weithio’n gyflym yn y maes hwn ac rydym wedi edrych eto ar ein llinell amser ar gyfer gweithredu. Mae gwaith eisoes wedi dechrau i ddatblygu safonau gwasanaeth drafft cychwynnol, gyda chymorth aelodau'r Grŵp Llywio Cymhorthion ac Addasiadau. Bydd y safonau gwasanaeth drafft yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori ym mis Hydref 2018 a bydd yr ymgynghoriad yn parhau am gyfnod o 12 wythnos.

Bydd y Safonau Gwasanaeth yn gosod y lefelau gwasanaeth y disgwylir ar gyfer gosod Addasiadau Tai a byddant yn helpu i sicrhau bod addasiadau’n cael eu cyflawni mewn modd cyson, beth bynnag fo lleoliad neu ddeiliadaeth y Defnyddwyr Gwasanaeth.

Bydd yr ymgynghoriad yn gyfle pwysig i ymgysylltu â’r ystod eang o sefydliadau y bydd eu cefnogaeth yn hanfodol i hyrwyddo gwelliannau i’r gwasanaeth. Yn amodol ar gasgliadau’r ymgynghoriad, ein bwriad yw cyhoeddi cyfres o safonau i’w defnyddio gan y sector o fis Ebrill 2019 ymlaen.

Bydd monitro’r ddarpariaeth yn erbyn y safonau gwasanaeth yn cael ei gyflawni drwy drefniadau monitro data diwygiedig HWYLUSO.  Bydd unrhyw newidiadau i’r gofynion data, sy’n angenrheidiol o dan y safonau, yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses ymgynghori. Byddwn yn diwygio’r safonau yn achlysurol ac yn eu cryfhau os bydd angen, er mwyn sicrhau gwelliannau pellach yn ansawdd a chysondeb y gwasanaeth.

Argymhelliad 3. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn pennu safonau clir ar gyfer nodi prawf modd ar gyfer DFGs. Derbyniodd Llywodraeth Cymru ei bod hi’n bosib ymgymryd ag addasiadau ar raddfa fach a chanolig heb greu prosesau cymeradwyo cymhleth a gor-fiwrocrataidd, ond roedd yr amrywiad mewn dulliau awdurdodau lleol wedi arwain at loteri cod post ar gyfer ymgeiswyr. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r dulliau presennol ac yn llunio canllawiau sy’n nodi’n glir y gwerth a’r math o waith addasiadau lle y dylid defnyddio’r prawf modd, a phryd y mae angen gweithredu yn ôl y safonau cymeradwyo isaf. Bydd y Pwyllgor yn monitro cynnydd o ran y gwaith hwn erbyn mis Gorffennaf 2019 fan bellaf.
Derbyn - Mae Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yn gosod sail ddeddfwriaethol ar gyfer darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFGs). Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 yn nodi’r meini prawf ar gyfer profi adnoddau ariannol a’r uchafswm grant y gall awdurdodau lleol ei dalu am addasiad, sef £36,000 ar hyn o bryd yng Nghymru. Diwygiwyd y diffiniad o ‘berson perthnasol’ gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2005 i gael gwared ar y prawf modd i’r rhai sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc anabl.
 
Yn ychwanegol at hyn, mae gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn i ddarparu cyllid ar gyfer addasiadau, atgyweiriadau a gwelliannau o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002.  Gall awdurdodau lleol ddarparu cymorth o dan y Gorchymyn ar ffurf grant ond yn aml, benthyciad yw hyn.  Mae gan Awdurdodau Lleol eu polisïau eu hunain ar faint a lefel y cymorth disgresiwn a gynigir ganddynt yn ogystal â’r amodau y mae’n rhaid i berson eu bodloni i fod yn gymwys.
 
Rydym wedi dechrau ar y gwaith o adolygu'r prawf modd ar gyfer y Grant Cyfleusterau i’r Anabl ac mae swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ganfod pa gyllid ychwanegol y maent yn ei ddarparu ar gyfer addasiadau llai, y tu allan i'r broses Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Bydd y gwaith hwn yn egluro pa awdurdodau lleol sydd wedi mabwysiadu newidiadau yn ôl disgresiwn a roddwyd iddynt dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddiol 2002, i ganiatáu addasiadau llai a/neu ganolig heb yr angen am brawf modd. Byddwn yn cyhoeddi canlyniad y gwaith hwn erbyn mis Rhagfyr 2018 ynghyd â chanllawiau ar y Grant Cyfleusterau i’r Anabl a’r defnydd o brofion modd, gyda’r nod o wella cysondeb a symleiddio prosesau o fewn yr hyn sy’n cael ei ganiatáu yn y fframwaith deddfwriaethol presennol.
 
Rydym yn cynnwys adolygiad mwy sylfaenol o brofion modd yn yr Adolygiad Systemau ehangach o'r broses addasiadau.  Bydd yr Adolygiad yn ymchwilio i ystod eang o faterion cymhleth ac o’r herwydd ni fydd yn adrodd yn llawn tan fis Rhagfyr 2019.
 
Argymhelliad 4. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer sefydliadau darparu, i wella’r arfer o integreiddio gwasanaethau, er enghraifft drwy dimau darparu integredig. Nodwn fod yna berthynas gref rhwng presenoldeb timau darparu integredig, ac arferion da wrth ddarparu addasiadau. Felly, rydym yn argymell, fel rhan o’i waith Hwyluso, fod Llywodraeth Cymru yn nodi natur y berthynas hon a sut mae hyn wedi sicrhau gwell canlyniadau. Bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddangos i’r Pwyllgor fod y gwaith hwn wedi’i wneud, erbyn mis Gorffennaf 2019 fan bellaf.
 
DerbynEr mwyn cefnogi a hyrwyddo mwy o waith integredig rydym eisoes wedi diwygio telerau ac amodau grantiau (mae manylion pellach yn argymhelliad 6) i hyrwyddo gwell cysylltiadau rhwng asiantaethau Gofal a Thrwsio a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Byddwn yn cefnogi Gofal a Thrwsio Cymru ac yn gweithio gyda'r sector yn ehangach i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad Cymhorthion ac Addasiadau i gefnogi annibyniaeth a chadw pobl allan o'r ysbyty. Bydd canllawiau gwell ar gyfer swyddogion Y rhaglen HWYLUSO yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Ebrill 2019.  Bydd yn hyrwyddo a chefnogi’r gwaith o integreiddio gwasanaethau gan gynnwys timau cyflenwi integredig. Byddwn yn anelu at ddarparu'r canllawiau hyn erbyn mis Ebrill 2019. 
 
Fel rhan o Adolygiad Systemau y broses addasiadau, byddwn yn ymchwilio i fanteision cyflwyno gwasanaeth integredig yn benodol, disgwylir i'r adroddiad ar y gwaith hwn gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2019.  Wrth ystyried canfyddiadau’r adolygiad, yn ogystal ag unrhyw newidiadau mwy sylweddol i’r system cymhorthion ac addasiadau sy’n deillio ohono, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio datblygu cyfres o ganllawiau cyffredinol sy’n cwmpasu pob math o gymhorthion ac addasiadau.

 

Argymhelliad 5. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru, drwy’r “Grŵp Datblygu Addasiadau Gwell” newydd yn ceisio sicrwydd bod sefydliadau darparu yn cymryd y camau angenrheidiol i gyflawni argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol. O gofio bod y tystion, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi derbyn canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol a’r angen am newid, mae’r Pwyllgor o’r farn ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru arwain y gwaith o sicrhau bod y gwendidau parhaol hyn yn cael sylw. Byddwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddangos i’r Pwyllgor fod y gwaith hwn yn mynd rhagddo, erbyn mis Rhagfyr 2019 fan bellaf.
Derbyn Byddwn yn gweithio gyda Grŵp Llywio Cymhorthion ac Addasiadau i gynnwys monitro argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol yn ei gynllun gwaith, y gellir ei fonitro a'i ddiweddaru mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Byddwn yn adrodd i’r Pwyllgor erbyn mis Rhagfyr 2019 ar yr hwyraf ac yn gynharach os yn briodol.

 

Argymhelliad 6. Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei ddangosyddion perfformiad cenedlaethol ar gyfer casglu data yn 2019-20. Dylai’r dangosyddion gael eu llunio i ganiatáu i sefydliadau darparu werthuso eu perfformiad, llywio eu strategaeth a gwella’r ddarpariaeth gwasanaethau. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y camau diwygiedig yn: 
·         Adlewyrchu’r safonau gofynnol lleiaf a ddatblygwyd ar gyfer addasiadau i ganiatáu gwerthusiad o effaith, llesiant a manteision ehangach buddsoddi mewn addasiadau.  
·         Ymdrin â’r diffygion a nodwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol (paragraff 4.13); ac yn 
·         Ymdrin ag unrhyw fylchau a nodwyd yn sgil y gwaith o fonitro a gwerthuso blwyddyn gyntaf HWYLUSO.
Bydd y Pwyllgor yn monitro i ba raddau y mae’r argymhelliad hwn wedi’i gyflawni, erbyn mis Rhagfyr 2019 fan bellaf.
 

Derbyn - Rydym yn cytuno y byddai’r sector yn elwa o allu gwerthuso eu perfformiad yn well a nodi’r arfer gorau wrth lunio eu strategaeth, darparu gwasanaethau a chasglu data mwy cadarn. I egluro, mae system monitro data HWYLUSO yn cynnwys pob darparwr gan gynnwys sefydliadau Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr (LSVT) a thai awdurdodau lleol ac mae hyn wedi bod yn ei le o’r cychwyn.  

Fel y nodir uchod, rydym yn gweithio gyda'r Grŵp Llywio Cymhorthion ac Addasiadau i wella ar ansawdd, cysondeb ac ystod y data a gesglir yn y dyfodol o dan system monitro data HWYLUSO.  Bydd hyn yn cynnwys ystyried unrhyw newidiadau y bydd eu hangen i sicrhau bod hyn yn adlewyrchu’r safonau gwasanaeth newydd y byddwn yn ymgynghori yn eu cylch yn fuan.  Edrychodd y grŵp gorchwyl a gorffen ar ofynion a chanllawiau monitro HWYLUSO yn ei gyfarfod ar Awst 16 2018.  Mae’r grŵp wedi awgrymu nifer o newidiadau er mwyn sicrhau bod data’n cael eu casglu mewn dull mwy cadarn a chyson a’i fod yn cipio data ar ddarparu gwasanaeth.  Bydd gofynion monitro diwygiedig HWYLUSO yn cofnodi’r amser a gymerir i brosesu ceisiadau addasiadau, a bydd hyn yn ein galluogi i gasglu tystiolaeth sy’n nodi’r prif dagfeydd a chefnogi camau gweithredu i fynd i’r afael â’r oedi.   Bydd y canllawiau monitro diwygiedig yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Llywio Cymhorthion ac Addasiadau ym mis Medi er mwyn cael sylwadau arnynt.  Yn amodol ar gytundeb y grŵp, bydd y canllawiau monitro yn cael eu cyhoeddi yn fuan wedyn i’w gweithredu ar unwaith.
 
Rydym wedi nodi’n glir yn y telerau ac amodau sy'n ymwneud â Gofal a Thrwsio, Rhaglen Addasiadau Brys a chyllid HWYLUSO ei bod yn ofynnol i bob sefydliad ddarparu data HWYLUSO a chasglu data monitro cydraddoldeb perthnasol. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i wneud y gofynion hyn yn eglur ar gyfer pob grant a rhaglen arall wrth inni weithio i wella ansawdd a chysondeb y data. Rydym hefyd wedi mynd i’r afael â data cydraddoldeb anghyflawn Drwy ddiwygio’r telerau ac amodau i’w gwneud yn ofynnol i sefydliadau unigol gyflawni eu dyletswyddau statudol yn hyn o beth.
 
Rydym yn cydnabod bod angen monitro’r holl addasiadau’n gyson gan y bydd yn rhoi mwy o ddealltwriaeth o’r gwasanaethau i bawb. Bydd yn darparu cyfleoedd i ymchwilio a gwneud gwelliannau lle mae anghysonderau o ran safonau'r gwasanaeth, er enghraifft, o ran amseroedd cyflawni o ganlyniad i oedi gan gwmnïau cynllunio neu gyfleustodau.
 
Nodir a chytunir ar y dyddiad a bennwyd gan y Pwyllgor.